Croeso!
Hyfryd yw eich harwain i gydnabyddiaeth o Gymdeithas Gymraeg Vancouver. Drwy glodfori ein hetifeddiaeth hynafol, 'rydym yn falch o allu cyfrannu at fywyd diwylliannol y ddinas ysblennydd hon.
Mae Neuadd Y Cambria yn ganolfan sy'n galluogi Cymry i gyfarfod a chymdeithasu
mewn awyrgylch gyfeillgar. Nyni yw gwarchodwyr hanes ein cenedl yn Vancouver
a'r cylch. Ceir yma groeso i ymwelwyr o'r fam-wlad ac o bedwar ban byd sydd
yn caru y diwylliant Cymreig.
Adeiladwyd Y Neuadd gan Gymry brwdfrydig yn 1929, ger Main Street a Avenue 17, yn Vancouver. Defnyddir yr adeilad i bob math o weithgareddau, o briodasau a chymanfaoedd canu i wleddau a dawnsfeydd.Cynhelir hefyd bob math o gyfarfodydd addysgiadol a diwylliannol gan yr aelodau.Gellir rhentu'r neuadd drwy ddefnyddio'r ddolen gydiol hon. (Dolen i'r Dudalen Rental)